Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm, y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Mae’r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith).
Canllawiau statudol yw Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddir o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf), a’r gynulleidfa darged felly yw:
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
darparwyr meithrinfeydd (lleoliadau) a ariennir nas cynhelir
athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
unigolyn sy’n darparu sesiynau dysgu ac addysgu i ddysgwr ar wahân i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, drwy drefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p 56)
awdurdod lleol yng Nghymru
Gan mai canllawiau statudol yw’r Fframwaith hwn, rhaid i’w gynulleidfa darged roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf. Drwy gydol Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, rydym yn defnyddio’r gair ‘dylai’ wrth gyfeirio at y disgwyliadau a amlinellir yn y canllawiau statudol hyn. Defnyddir y gair hwnnw i gyfeirio at gamau yr ydym yn argymell yn gryf y dylai ysgolion a lleoliadau eu cymryd. Nid yw’n gyfystyr â gofyniad mandadol (mae gofynion felly wedi’u nodi ar wahân yn y canllawiau). Gan fod yr argymhellion hyn yn rhan o ganllawiau statudol, rhaid i ysgolion a lleoliadau eu hystyried, ond os oes ganddynt reswm da, cânt benderfynu gweithredu’n wahanol.
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn nodi:
gofynion mewn perthynas â’r cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed, er mwyn sicrhau bod yr un dysgu craidd yn digwydd ym mhob ysgol a lleoliad, a sicrhau dull cyson ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru
canllawiau i ysgolion a lleoliadau eu defnyddio wrth ddatblygu eu cwricwla
disgwyliadau o ran trefniadau asesu i gefnogi cynnydd y dysgwyr
Mae’n cynnwys y canlynol:
Cyflwyniad i ganllawiau Gwricwlwm i Gymru.
Gofynion ar gyfer y cwricwlwm ac asesu yn y ddeddfwriaeth.
Cynllunio eich cwricwlwm: canllaw cyffredinol ar ddatblygu cwricwlwm ar draws pob maes dysgu a phrofiad [Maes/Meysydd].
Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu.
Ymlaen â’r daith: disgwyliadau o ran y broses barhaus o gynllunio, adolygu a diwygio cwricwlwm
Cyflwyniad i bob Maes dysgu a phrofiad.
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig: y ‘syniadau mawr ac egwyddorion allweddol ymhob Maes.
Egwyddorion cynnydd: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd eu dysgu ar draws y cwricwlwm.
Disgrifiadau dysgu: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.
Cynllunio eich cwricwlwm: egwyddorion ar gyfer pob Maes – mwy o arweiniad Maes-benodol ar ddatblygu cwricwlwm.
Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys. Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a cham wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.
Cwricwlwm yr ysgol neu’r lleoliad yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu.
Dylai datblygu cwricwlwm fod wrth wraidd ymdrechion ymarferwyr, ysgolion a’r genedl i godi safonau i bawb, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.
Mae’r datblygu hwn yn cyfrannu tuag at ein nodau fel cenedl, sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn fodd pwysig o sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn rhan ganolog o brofiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc, ac o sicrhau eu bod yn deall eu hawliau.