Mae’r adran hon o ganllawiau statudol yn cyfeirio’n benodol at addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adran crynodeb o ddeddfwriaeth yn nodi gofynion Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae AHY yn chwarae rôl hollbwysig o ran rhoi mynediad i ddysgu i rai o’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Unedau cyfeirio disgyblion sefydliadau addysg bellach, ysgolion arbennig annibynnol a sefydliadau yn y trydydd sector. Gall dysgu yn y lleoliadau hyn hefyd cael ei gyfuno ag addysg ran-amser mewn ysgol brif ffrwd fel rhan o becyn o fesurau a gynlluniwyd i ddarparu addysg addas. Felly, mae AHY yn aml yn gofyn am fwy o hyblygrwydd nag addysg brif ffrwd. Mae AHY yn ymwneud â chynnydd addysgol, ond rhaid iddo hefyd ganolbwyntio ar helpu dysgwyr i fynd i’r afael â goresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at ddarpariaeth brif ffrwd a chymryd rhan lawn mewn addysg.
Mae’r adran hon ar gyfer AHY yn nodi’r hyn sydd ei angen yn ychwanegol at yr hyn a nodir ar gyfer pob dysgwr yng nghanllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, gan fod egwyddorion cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm ac asesu fwy neu lai yr un fath ar gyfer lleoliadau prif ffrwd ac AHY, mae dolenni ar gyfer rhannau eraill o’r canllawiau fframwaith hefyd wedi’u cynnwys yma.