Review of support for Speech, Language and Communication (SLC) development and needs across Wales
Manylion y digwyddiad hwn
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Better Communication CIC i gynnal dadansoddiad annibynnol o'r cymorth presennol. Rydyn ni’n gwahodd unrhyw aelod o’r gweithlu sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i rannu beth sy'n gweithio'n dda, unrhyw rwystrau o ran cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â'ch safbwynt proffesiynol chi ar yr hyn fyddai'n gwneud gwahaniaeth.
Fel rhan o hyn rydyn ni am glywed gan deuluoedd o bob cwr o Gymru.
Mae grwpiau ffocws ar wahân ar gyfer gweithlu'r blynyddoedd cynnar ac ysgolion, & rhiant a gofalwyr.
Ym mhob grŵp ffocws, bydd uchafswm o 10 gweithiwr proffesiynol o bob cwr o Gymru. Fyddwn ni ddim yn gofyn i chi rannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol.
Byddwn yn eich holi am y canlynol:
Pwy sy'n cefnogi canlyniadau ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Beth sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd.
Pa heriau sydd yn y system.
Dyheadau o ran y ffyrdd gorau o gefnogi plant a phobl ifanc.