Ail-safoni'r Prawf Darllen Cymraeg Safonedig (Consortiwm Canolbarth y De - CCD)
Sylwer, mae'r gweithgaredd hwn ar wahân i asesiadau personol cenedlaethol gorfodol Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n rhan ohonynt.
Pam cymryd rhan
Helpu i greu oedrannau darllen mwy cywir ar gyfer dysgwyr Cymru.
Cefnogi asesu teg a chenedlaethol.
Cyfrannu at well adnodd llythrennedd ar gyfer y sector uwchradd.
Beth sy’n ofynnol
2 brawf byr (15 i 20 munud yr un, o fewn mis i’w gilydd).
Wedi’u gweinyddu un-i-un.
I’w cwblhau rhwng Mai a diwedd y flwyddyn academaidd.
Budd i’ch ysgol
Taleb llyfrau £5 am bob dysgwr sy’n cwblhau’r ddau brawf.
Data darllen mwy cadarn i gefnogi addysgu.
Mae hyd yn oed nifer fach o ddysgwyr yncyfraniad gwerthfawr iawn.
Camau nesaf
Mynegwch eich diddordeb trwy e-bostio profion@cardiff.ac.uk.
Cadarnhewch nifer y dysgwyr.
Derbyniwch fanylion mynediad.
Trefnwch y sesiynau.
Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod prysur iawn i Flwyddyn 10 ac 11, diolch o galon am ystyried cefnogi’r prosiect hwn.