Arbrofi: rhaglen wedi’i ariannu i gynnal ymholiad dan ofal athrawon
Mae Arbrofi yn rhaglen dan arweiniad athrawon sy’n cefnogi ysgolion i gryfhau llythrennedd neu iechyd a lles, drwy osod llais y dysgwyr, creadigrwydd a chyd-arweinyddiaeth wrth wraidd y gwaith. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ddysgu creadigol i gymryd rhan, dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth gwahanol.
Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael ei pharu â Phartner Dysgu Creadigol profiadol, sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol, amser i feddwl a sgyrsiau gonest wrth i’r gwaith ddatblygu, gyda’r nod o gefnogi ac ymestyn arfer presennol yn hytrach nag ychwanegu at y llwyth gwaith.
Nid yw’r rhaglen yn disgwyl cynllun perffaith na chanlyniad caboledig, yn hytrach, mae Arbrofi yn canolbwyntio ar y broses o arbrofi, myfyrio ar yr hyn sy’n gweithio, neu beidio, a defnyddio’r dysgu hwnnw i benderfynu ar gamau nesaf ymarferol.
Beth mae Arbrofi yn gynnig
Cefnogaeth Partner Dysgu Creadigol wedi’i baru â’ch ysgol.
£2,000 i ddatblygu eich syniad.
Gofod i roi cynnig ar syniadau, eu mireinio a rhoi cynnig eto.
Ffocws clir ar lythrennedd neu iechyd a lles, a dysgwyr yn cyd-arwain drwy gydol y daith.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r ffenestr ymgeisio bellach ar agor ac yn cau am 5yh ddydd Mercher 10 Mehefin 2026, ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Gall ysgolion gysylltu hefyd drwy e-bostio dysgu.creadigol@celf.cymru gydag “Ymholiad arbrofi” fel testun.