Cefnogi defnydd diogel a chytbwys o apiau ar-lein
Mae sgyrsiau ynghylch defnydd plant a phobl ifanc o gyfryngau cymdeithasol, apiau a thechnolegau cysylltiedig yn parhau i dyfu, gan amrywio o gydbwysedd o ran amser sgrin a lles digidol i ddiogelwch ar-lein a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg fel AI cynhyrchiol. Nid yw helpu pobl ifanc i lywio'r gofod hwn yn ymwneud â chyfyngu mynediad yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi gan oedolion gwybodus, hyderus sy'n gallu gosod ffiniau priodol a chynnig arweiniad.
Mae canllawiau Hwb i rieni a gofalwyr ynghylch apiau wedi'u cynllunio i gefnogi'r sgyrsiau hyn. Gan roi sylw i amrywiaeth o feysydd gan gynnwys gemau cyfrifiadurol, cyfryngau cymdeithasol, ffrydio, negeseuon a microflogio, mae'r canllawiau’n:
esbonio sut mae gwahanol lwyfannau’n gweithio
tynnu sylw at risgiau posibl
cynnig cyngor ymarferol ar osodiadau diogelwch a defnydd mwy diogel
Mae canllawiau pwrpasol hefyd, yn seiliedig ar gyngor CEOP Education, i helpu oedolion i gael sgyrsiau sensitif gyda phlant.
Trwy ddatblygu eu dealltwriaeth o'r byd digidol, gall rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr chwarae rhan hanfodol wrth greu'r mesurau diogelwch sy'n siapio profiad ar-lein plentyn, gan eu cefnogi i ddatblygu arferion iach, cadw'n ddiogel, a gwneud dewisiadau gwybodus.
Ymgyrch newydd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Mae rhagor o gymorth ar gael ichi o ymgyrch ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Nod yr ymgyrch yw helpu ysgolion i gefnogi rhieni plant 4 i 11 oed i siarad am breifatrwydd ar-lein gartref, gan ategu’r hyn y mae plant yn ei ddysgu yn yr ysgol. Mae’n hyrwyddo tri cham syml (Sgwrsio, Pigo, Gwirio) i helpu teuluoedd i feithrin arferion ar-lein diogel a gwneud penderfyniadau gwybodus am yr wybodaeth bersonol y maent am ei rhannu.