Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025

Cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
12/06/2026 00:00:00

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu ehangder prosiectau gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid eithriadol a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Mae cystadleuaeth ddiweddaraf y Gwobrau yn cydnabod rhagoriaeth yn y categorïau canlynol:

  • Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflawni mewn partneriaeth ar lefel leol: yn cydnabod rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid cydweithredol a gyflawnir drwy bartneriaethau lleol cryf.

  • Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflawni mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol neu genedlaethol: yn dathlu prosiectau sy'n gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol.

  • Arloesi digidol: yn tynnu sylw at y defnydd creadigol o ddulliau digidol i gefnogi cyrhaeddiad, ansawdd neu effaith.

  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn lleoliad gwaith ieuenctid: yn cydnabod rhagoriaeth wrth sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol.

  • Arweinyddiaeth: yn cydnabod arweinwyr enghreifftiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc ac wedi ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

  • Gweithiwr ieuenctid eithriadol: yn cydnabod unigolyn sydd wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc.

  • Gwaith gwirfoddol eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid: yn tynnu sylw at gyfraniad gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid yng Nghymru.

  • Seren y dyfodol: yn dathlu talent sy'n dod i'r amlwg yn y sector gwaith ieuenctid.

  • Arloesedd yn y Gymraeg: yn cydnabod prosiectau neu wasanaethau sy'n arddangos arloesedd wrth ddatblygu darpariaeth gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfarfu paneli'r beirniaid yn gynharach yn 2026 i ystyried pob enwebiad a dderbyniwyd. Mae'r rhai a ddewiswyd gan y paneli hyn i gyrraedd y rownd derfynol yn cynrychioli cryfder ac effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru, ac yn tynnu sylw at sut mae gweithwyr ieuenctid, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru yn creu mannau diogel, cefnogol ac yn darparu profiadau ystyrlon sy'n llywio bywydau pobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol.

Mae rhai o'r terfynwyr yn cynnwys

  • prosiect Lle Da GISDA, menter a arweinir gan bartneriaeth i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed i symud tuag at fyw'n annibynnol a chyflogaeth gynaliadwy.

  • Menter Gwrywdod Cadarnhaol a arweinir gan Media Academy Cymru, sy'n helpu dynion ifanc i archwilio cwestiynau hunaniaeth, perthnasoedd a lles drwy ddulliau arloesol, sy'n ystyriol o drawma.

  • A Fforwm Ieuenctid Spectrwm yn Rhondda Cynon Taf: menter dan arweiniad ieuenctid sy'n grymuso pobl ifanc niwrowahanol i rannu eu profiadau a dylanwadu ar arferion mwy cynhwysol.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddarllen mwy am stori pob un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r gwaith eithriadol maen nhw'n ei gyflawni ar LLYW.Cymru.

Caiff enwau'r enillwyr eu rhyddhau ar-lein yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, a gynhelir rhwng 23 a 30 Mehefin 2026.

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper