Platfform Hwb newydd yn dod ym mis Hydref

Bydd platfform Hwb newydd yn lansio’r hydref hwn gyda gwell defnyddioldeb a llywio, ynghyd â newidiadau i wasanaethau.
02/06/2026 00:00:00

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio i wella’r profiad cyffredinol o ddefnyddio Hwb. Bydd y platfform newydd:

  • yn haws i’w ddefnyddio, gan eich helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch yn gyflym

  • yn haws i’w lywio o gymharu â’r hen safle

  • yn blatfform symlach sy’n haws i’w ddeall yn reddfol

Mae hyn yn rhan o'n gwaith parhaus i wneud Hwb yn haws i'w ddefnyddio ac i gefnogi dysgu ac addysgu yn well. Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi bod yn gweithio dros y 18 mis diwethaf i ddatblygu gwasanaeth newydd sy’n cadw defnyddwyr mewn golwg.

Newidiadau i rai gwasanaethau

Dros y 6 mis nesaf, wrth i ni gyflwyno'r platfform newydd, bydd rhai o wasanaethau Hwb yn cael eu dileu.

Rydym yn deall bod y gwasanaethau hyn yn bwysig i lawer o ddefnyddwyr a byddwn yn:

  • rhoi canllawiau clir ar yr hyn sy'n newid

  • rhannu dewisiadau amgen lle bo'n briodol

  • egluro beth sydd angen i chi ei wneud a phryd

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf i'ch helpu i baratoi.

Helpwch ni i gynllunio’r hyn a ddaw nesaf

Mae Hwb yn newid, rydym yn chwilio am bobl i helpu i lywio profiad y defnyddiwr ac i wella'r platfform. Os gallwch chi helpu, cysylltwch ag ymchwiliddefnyddwyr@hwbcymru.net.

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper