Rhannwch eich barn ar Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) – ar gyfer ysgolion nad ydynt yn ymwneud ag AGA
Drwy gymryd rhan mewn cyfweliad 1 awr, gall eich sylwadau helpu i lunio darpariaeth AGA yng Nghymru yn y dyfodol a sicrhau bod profiadau pob ysgol yn cael eu cynrychioli.
Fel rhan o'r ymchwil hon, rydym am glywed gan staff (athrawon, mentoriaid ysgolion, arweinwyr ysgolion) sy'n gweithio mewn ysgolion nad ydynt yn rhan o unrhyw bartneriaeth AGA gan ei bod yn bwysig bod eich lleisiau'n cael eu cynrychioli yn yr ymchwil yn yr un ffordd ag ysgolion sy'n rhan o bartneriaethau AGA.
Bydd eich safbwyntiau yn ein helpu i ddeall yn llawn sut mae polisi a diwygiadau i'r Rhaglen AGA yn gweithio yn ymarferol, mae'n bwysig bod profiadau ysgolion y tu allan i bartneriaethau presennol yn cael eu cynrychioli ochr yn ochr â'r rhai sy'n cymryd rhan weithredol.
Bydd y cyfweliad yn archwilio:
profiad eich ysgol o bartneriaethau AGA (yn y gorffennol neu'r presennol)
sut mae newidiadau i'r partneriaethau hynny wedi effeithio ar recriwtio athrawon a lleoliadau profiad mewn ysgol
eich barn ar ddarpariaeth AGA yn eich ardal yn y dyfodol
a yw diwygiadau diweddar i'r Rhaglen AGA — megis newidiadau achredu, safonau proffesiynol, a chynlluniau cymhelliant, wedi diwallu anghenion ysgolion yn eich cyd-destun
Mae cyfweliadau'n para hyd at 60 munud a byddant yn cael eu cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams (nid oes angen cyfrif).
Sut i gymryd rhan
I gymryd rhan, cadwch le ar amser cyfleus gan ddefnyddio un o'r canlynol:
Ar ôl i chi gadw'ch lle, byddwn yn anfon hysbysiad preifatrwydd a ffurflen gyfranogiad atoch. Bydd rhain yn esbonio sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth neu beth mae cymryd rhan ynddi yn ei olygu, mae croeso i chi gysylltu â manon.johnes@almaeconomics.com. Byddem yn gwerthfawrogi clywed gennych chi.