'Trosglwyddo' Hwb i flwyddyn academaidd 2026 i 2027
Mae canllaw ar gyfer trosglwyddo cyfrifon Hwb i ysgolion ac awdurdodau lleol ar gael yng nghanolfan gymorth Hwb.
Mae'r broses o symud cyfrifon a data Hwb o un flwyddyn academaidd i'r llall yn awtomatig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ysgolion ddiweddaru data dysgwyr a staff yn eu System Gwybodaeth Reoli (MIS) mewn da bryd fel bod cyfrifon Hwb yn barod ar gyfer defnyddwyr ar ddechrau'r tymor.
Mae hefyd yn hanfodol bod cleientiaid darparu Hwb yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol gwyliau'r haf. Rhaid i ysgolion sy'n defnyddio SIMS neu’r Ganolfan Athrawon drefnu bod eu cleient darparu yn rhedeg ar 29 Awst a chyn diwrnod cyntaf y tymor.
Bydd y dyddiadau’n berthnasol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Rhaid i bob ysgol gwblhau eu gweithdrefnau diwedd blwyddyn cyn dydd Gwener 7 Awst 2026 i baratoi ar gyfer trosglwyddo cyfrifon Hwb.
Rhagor o wybodaeth
Ewch i Hwb i ddod o hyd i'r dyddiadau a'r camau allweddol y mae'n rhaid i ysgolion eu cymryd i baratoi ar gyfer dechrau'r tymor.