Trwyddedau Adobe Creative Cloud ar gael i'w prynu cyn 24 Gorffennaf 2026

Gall ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod archebion gyda'u hawdurdod lleol i brynu trwyddedau Adobe Creative Cloud ar gyfer blwydden academaidd 2026 i 2027.
01/06/2026 00:00:00

Mae Adobe Creative Cloud trwy Hwb yn rhoi mynediad i dros 20 o apiau Adobe fel Adobe Photoshop, Adobe Animate, Adobe Acrobat Pro ac Adobe Illustrator.

Mae offer Adobe Creative Cloud yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau cyfathrebu, creadigrwydd, cydweithio, datrys problemau a meddwl yn feirniadol. Gellir defnyddio’r offer hyn i gefnogi darpariaeth cymwysterau Technoleg Ddigidol CBAC ar lefel TGAU a Safon Uwch/UG.

Bydd trwyddedau blasu ar gael eto ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027 yn ôl y cymarebau hyn:

  • Ysgolion meithrin, cynradd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion: 1 drwydded yr un

  • Ysgolion canol ac uwchradd: 5 trwydded yr un

Dylid gosod archebion trwy eich awdurdod lleol erbyn 24 Gorffennaf 2026 a byddan nhw’n trefnu drwy'r Gwasanaeth Technoleg Addysg.

Mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru hefyd fynediad at Adobe Express yn rhad ac am ddim trwy'r cyfrifon Hwb.

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper