Trwyddedau Google Teaching and Learning Upgrade ar gael i'w prynu cyn 24 Gorffennaf 2026
Gall ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod archebion gyda'u hawdurdod lleol i brynu trwyddedau Google Teaching and Learning Upgrade.
01/06/2026 00:00:00
Gellir ychwanegu Google Teaching and Learning Upgrade at Education Fundamentals i roi ymarferoldeb gwell yn Google Classroom, Google Meet ac Assignments.
Mae'r drwydded yn cynnwys setiau ymarfer (ar YouTube) sy'n gallu trawsnewid cynnwys newydd a chynnwys sy’n bodoli eisoes yn aseiniadau diddorol a rhyngweithiol. Gyda graddio awtomatig wedi'i gynnwys, gall ymarferwyr gael gwybodaeth am berfformiad a a golwg ar gynnydd dysgwyr. Mae dysgwyr yn cael adborth amser real wrth iddynt gwblhau setiau ymarfer, fel eu bod yn gwybod a ydyn nhw ar y trywydd iawn.
Dylid gosod archebion trwy eich awdurdod lleol erbyn 24 Gorffennaf 2026 a byddan nhw’n trefnu drwy'r Gwasanaeth Technoleg Addysg.