Tywydd poeth eithafol: canllawiau i ysgolion a lleoliadau gofal plant
Byddwch yn effro hefyd i rybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd a rhagolygon llygredd aer Ansawdd Aer Cymru, ar gyfer gweddill yr wythnos (w/c 22 Mehefin 2026).
Gwyddom y gall gwres eithafol fod yn arbennig o beryglus i blant ac rydym yn awgrymu bod ysgolion a lleoliadau yn tynnu sylw at y camau angenrheidiol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, dan do ac yn yr awyr agored.
Ein cyngor i ysgolion a lleoliadau gofal plant wrth ddelio â gwres eithafol yw:
osgoi gweithgareddau corfforol egnïol
gwneud y mwyaf o gysgod, awyru a hydradiad
annog plant i wisgo dillad llac lliw golau os yn bosibl
annog plant i wisgo hetiau ac eli haul yn yr awyr agored.
Canllawiau defnyddiol a gwefannau
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar agor ysgolion a lleoliadau gofal plant yn ystod tywydd eithafol o boeth ar gael ar LLYW.CYMRU.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae cyngor Iechyd Cynhoeddus Cymru ar gael i'r cyhoedd a'r rhai sy'n gofalu am blant.
Cyngor y GIG
Mae cyngor y GIG gael ar arwyddion a symptomau blinder gwres a thrawiad gwres. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar y camau i'w cymryd os bydd unrhyw un yn eich cymuned ddysgu (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio o bell) yn dangos unrhyw un o'r arwyddion a'r symptomau hyn.
Cyngor diogelwch dŵr
Mae Cyngor Diogelwch Dŵr ar gael ar wefan Cymdeithas Achub Bywydau Brenhinol y DU.