Ymunwch â'r panel adolygu cynnwys Asesiadau Personol ym maes Darllen (Cymraeg)

Cyfle cyffrous i ymuno â'n Panel Adolygu Cynnwys Asesiadau Personol a'n helpu i ddatblygu adroddiad newydd i gefnogi dealltwriaeth athrawon o gynnydd dysgwyr.
05/05/2026 00:00:00

Rydym yn ystyried sut y gellir cefnogi ymarferwyr ymhellach i ddeall cynnydd dysgwyr drwy ddatblygu adroddiad newydd ar Asesiadau Personol.

Er mwyn datblygu'r adroddiad, byddwn yn cynnal ymarfer adolygu cynnwys ar gyfer Darllen (Cymraeg) ar 8 a 9 Gorffennaf 2026.

Rydym yn chwilio am ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg sydd â phrofiad perthnasol o addysgu dysgwyr Blwyddyn 6, ac ymarferwyr sydd â phrofiad perthnasol o addysgu dysgwyr Blwyddyn 7 ar gyfer y panel.

Nodwch os ydych chi eisoes wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y panel adolygu cynnwys Darllen (Cymraeg), byddw yn cysylltu a chi. Nid oes angen ymgeisio eto.

Meini prawf rhaid i aelodau'r panel fodloni

Hanfodol

Bod â 3 blynedd a mwy o brofiad o addysgu'r grwpiau blwyddyn perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg (mae croeso i athrawon sydd wedi ymddeol ers 2024 wneud cais hefyd).

Yn gallu dod i ddigwyddiadau adolygu cynnwys yn bersonol ac yn gallu ymrwymo tua 2 diwrnod i'r gweithgaredd hwn.

Dymunol

Profiad blaenorol mewn gweithgareddau gosod safonau.

Tystiolaeth o ymgysylltu a bod yn gyfarwydd â nodau'r Cwricwlwm i Gymru a'r camau cynnydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad perthnasol (er enghraifft, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau blaenorol sy'n gysylltiedig â'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm).

Dealltwriaeth o'r Asesiadau Personol.

Bydd y panel adolygu cynnwys ar gyfer Darllen (Cymraeg) yn cwrdd wyneb yn wyneb yn Llandudno (lleoliad i’w gadarnhau) ar 8 a 9 Gorffennaf 2026. Rhaid i aelodau'r panel allu ymrwymo i fynd i holl gyfarfodydd y panel.

Mwy o wybodaeth a sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion, gweler manyleb y person a'r ffurflen mynegi diddordeb. Y dyddiad cau yw 4pm ar 5 Mehefin 2026.

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper