Yn galw ar bob ysgol gynradd: helpwch i lunio offer data ysgol y dyfodol

Rhowch eich barn ar yr offer data digidol a allai ddisodli neu wella Fy Ysgol Leol a'r Setiau Data Craidd Cymru Gyfan.
01/05/2026 00:00:00

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu The Public Services Consultants i gynnal ymarfer darganfod i helpu i lunio offer digidol ar gyfer data ysgolion yn y dyfodol.

Rydym yn archwilio sut mae systemau cyfredol fel Fy Ysgol Leol a'r Setiau Data Craidd Cymru Gyfan yn gweithio yn ymarferol, a sut y gellid eu disodli ag offer gwell a haws eu defnyddio.

Pam rydym am glywed gennych

Rydym am ddeall:

  • Beth sy'n gweithio'n dda gyda Fy Ysgol Leol a'r Setiau Data Craidd Cymru Gyfan a phrosesau data cysylltiedig

  • Yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddata, ei ddefnyddio neu ei ddehongli

  • Beth y byddai athrawon ac ysgolion yn ei werthfawrogi mewn offer data digidol yn y dyfodol

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan ysgolion cynradd yn benodol, gan nad yw'r safbwyntiau hyn wedi cael eu cynrychioli'n llawn yn ein hymchwil hyd yma.

Bydd eich mewnbwn yn helpu i lywio systemau'r dyfodol a gynlluniwyd i gefnogi dysgu, gwella a defnydd teg, tryloyw o ddata ledled Cymru.

Beth fydd angen imi ei wneud er mwyn cymryd rhan?

Gall cymryd rhan gynnwys y canlynol:

  • cyfweliad byr 1:1 (tua 60 munud)

  • trafodaeth mewn grŵp ffocws bach, neu

  • cwblhau arolwg byr

Gallwch ddewis y fformat sydd orau gennych.

I gofrestru eich diddordeb

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil hon, cwblhewch y ffurflen gofrestru fer ar-lein (drwy Microsoft 365) erbyn dydd Gwener 15 Mai 2026.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i'n blog i ddarganfod mwy am ein gwaith: Cryfhau’r defnydd o ddata i gefnogi dysgu a gwella yng Nghymru.

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper