Ystafell Athrawon yn Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn 23 i 29 Mai 2026

Lawnsio ystafell yn arbennig i athrawon ar eleni.
20/05/2026 00:00:00

Bydd gofod arbennig yn cael ei lansio eleni, gan gynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd seibiant o brysurdeb yr wythnos gystadlu.

Sefydlwyd yr Ystafell Athrawon gan CYDAGGwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a e-sgol, gyda chefnogaeth Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y babell yn darparu amgylchedd croesawgar lle gall athrawon a staff addysg ddod at ei gilydd i gael lluniaeth, gwefru dyfeisiadau, derbyn cymorth a gwybodaeth ac ysbrydoliaeth yn ystod yr Eisteddfod. 

Yn ogystal, bydd amrywiaeth o gyrff sy’n cynnig cefnogaeth i athrawon yn bresennol ar wahanol ddiwrnodau’r wythnos. Ymhlith y rhain mae Adnodd, Medr, Dysgu, Niwroamrywiaeth Cymru ac Addysgwyr Cymru, gan sicrhau bod ystod eang o arbenigedd a chefnogaeth ar gael i staff ysgolion.

Rhaglen yr Ystafell Athrawon:

Dydd Sul 24 Mai

11am: Agoriad swyddogol gan Lywydd y Dydd, Tudur Owen
1:30pm Dechrau eich taith Erasmus+ Darganfod sut y gallwch fanteisio ar gyfleoedd i chi, eich dysgwyr a'ch cydweithwyr.

Dydd Llun 25 Mai

  • 10:30am i 12:30pm: Gweithdai Adnodd

  • 2pm i 3pm: Sesiynau Charanga

Dydd Mercher 27 Mai

  • 10:30am i 11:15am: cyflwyniad gan niwrowahaniaeth Cymru

  • 11:15am i 12:30pm: Paned a sgwrs gyda’r tim niwrowahaniaeth

  • 2pm i 4pm: sesiynau gan Gisda

Dydd Iau 28 Mai

  • 10:30am i 11:30am: sgwrs banel, yng nghwmni Dysgu

  • 2pm i 2:45pm: gweithdy gan Erin Dolan, Theatr Cymru – sut i greu gweithdy drama sy’n rhyngweithiol I ddisgyblion

Dydd Gwener 29 Mai

  • 11am i 12pm: cyflwyniadau gan Siarter Iaith Môn

Share:
Add swiper existing block for more news articles swiper